Geraint Jones

O ran fy ngwaith my rydw i'n ddarlithydd prifysgol mewn Cyfrifianneg ym Mhrifysgol Rhydychen, cymrawd yng Ngholeg Wolfson Rhydychen, ac yn ddarlithydd coleg yng Ngholeg Newydd Rhydychen. Ar hyn o bryd mi rydw i hefyd yn swyddog diogelwch ac yn gadeirydd arholwyr cyfrifianneg am flwyddyn.

O ran hanes, mi rydw i'n hanu o Goedpoeth, ar y ffin rhwng Maelor Gymreig a Maelor Seisnig, yng nghrud y diwydiant haearn ar faes glo'r Gogledd. Teulu mam sydd o Goedpoeth - teulu Roberts, Grawsen - roedd gan fy nhaid, Elwyn y Gof, efail yn y Nant. Dyn dwad o deulu dwad oedd fy nhad: roedd yntau yn beiriannydd hefyd, yn y diwydiant awyrennau, yn enedigol o'r Mwynglawdd - prin milltir o Goedpoeth - a'i daid yntau yn ddyn estron go iawn ymfudyodd yno gyda'i geffyl a throl o Chirbury yn Lloegr, ar y ffin â Maldwyn.

Ces i fy ngeni yno pan roedd yn Sir Ddinbych, cefais fy magu yno pan roedd yng Nghlwyd, ond erbyn hyn mae ym mwrdeisref sirol Wrecsam. Hen beth disail, symudol yw gwladwriaeth; ond peth sefydlog yw gwlad. Pan roeddwn i'n dri mis oed fe symudodd y teulu o un ochr y ffordd fawr yng Nghoedpoeth i'r ochr arall, ac yno y bues i am ddeunaw mlynedd hyd nes i mi fynd ar daith i Lychlyn ac i Rwsia, a magu angen mawr i ddychwelyd yn aml o lefydd pell.

Fe ddes i i Rydychen ym 1975, ac er fy mod i wedi treulio cyfnodau byrion yng Nglasgow ac Göteborg, a chyfnodau meithion yn teithio o gwmpas Ewrop ar drennau, yma y buodd fy nghartref i wedyn, er na fues i yn berchen ty tan i mi fod yma dros chwarter canrif. Erbyn hyn mi rydw i'n briod, yn dad, ac yn berchen ty; mae bod yn ddau o'r rhain yn well o lawer na'r llal.

Mi rydw i'n fathemategydd o ran addysg, peiriannydd o ran tuedd, addysgwr o ran galwedigaeth, a rhyw dipyn o gasglwr llyfrau o ran pechod. Os nad ydw i wrth rhyw fath o waith neu dramor, my fydda i un ai'n palu'r rhandir neu'n beicio i rywle. Rydw i'n bur debyg o fod yng nghyffiniau rhyw theatr neu'i gilydd gydol wythnos y Llun cyntaf ym mis Awst pob blwyddyn, ac ambell waith byddaf i'm gweld yn rhowlio chwerthin yng nghornel gefn rhyw dalwrn dafarn.

Cysylltu â mi

Y ffordd orau o bell yw trwy e-bost. Dylid danfon unrhyw bost ar bapur at

Geraint Jones, Coleg Wolfson, Rhydychen OX2 6UD, Lloegr

Mae o werth defnyddio fy enw llawn, er gwaethaf arferiad Seisnig, gan bod nifer o Jonesiaid eraill yn rhannu'r cyfeiriad yma ac mae nifer ohonynt un ai ar hyn o bryd neu wedi bod yn G o ryw fath neu'i gilydd.


You may be looking for Geraint Jones' work page (which is in English).